Sion Pritchard

Sion Pritchard joins Belonging for 2018 tour

Sion talks about his connection with dementia and why Belonging is important to him.

I have a connection to the issues that are dealt with in the play, because my dad was living with dementia for the last few years of his life. I wasn’t expecting to be reminded of lots of the stuff we experienced. Belonging really investigates that in a truthful, honest and humorous way.

My character is called Gareth and he is Sheila’s son. He seems to have his own life and he’s maybe in denial about his mother’s changes or struggling to accept that his mother is getting older and their relationship is changing. Gareth goes through a journey in the play where he begins to take on his responsibilities and learns that this can be a positive experience.

Gareth (Sion Pritchard) and Rhian (Karin Diamond) in Belonging

Gareth (Sion Pritchard) and Rhian (Karin Diamond) in Belonging

It’s important to me that Belonging looks at the idea of language. I think positive use of language can make a massive difference to someone’s care and quality of life. Welsh being a minority language in the UK means that it’s not always considered important. My niece is training to be a nurse and she is writing her dissertation on how the decline of the Welsh language in care impacts on older people. I hope that Belonging will help to raise awareness of the importance of Welsh language in healthcare provision.

I think this is the first time I’ve been in a play that will have a direct social impact and could actually change people’s lives.

Belonging is touring Wales from April 26. Please visit the Belonging page for venues and dates near you. http://www.re-live.org.uk/belonging/

Mae Sion Pritchard yn ymuno â Perthyn ar gyfer taith 2018

Mae gennyf gysylltiad â’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y ddrama, oherwydd roedd fy nhad yn byw gyda dementia am ychydig flynyddoedd olaf ei fywyd. Doeddwn ddim yn disgwyl cael fy atgoffa o lawer o’r profiadau cawson ni. Mae Perthyn wir yn archwilio hynny mewn modd gwir, onest a llawn hiwmor.

Enw fy nghymeriad yw Gareth a fe yw mab Sheila. Mae’n ymddangos fel bod ganddo ei fywyd ei hun ac efallai ei bod yn gwrthod derbyn newidiadau ei fam neu’n cael trafferth derbyn bod ei fam yn heneiddio a bod eu perthynas yn newid. Mae Gareth yn mynd ar daith yn y ddrama ble mae’n cychwyn cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa a dysgu bod hyn yn gallu bod yn brofiad cadarnhaol.

Gareth (Sion Pritchard).

Gareth (Sion Pritchard).

Mae’n bwysig i mi fod Perthyn yn edrych ar y syniad o iaith. Rwy’n credu bod defnydd cadarnhaol o iaith yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i ofal ac ansawdd bywyd unigolyn. Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol yn y DU sy’n golygu ei bod ddim yn cael ei ystyried i fod yn bwysig o hyd.

Mae fy nith yn hyfforddi i fod yn nyrs ac mae hi’n ysgrifennu ei thraethawd estynedig ar sut mae dirywiad y Gymraeg yn y maes gofal yn effeithio ar bobl hŷn. Rwy’n gobeithio y bydd Perthyn yn helpu codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yn narpariaeth gofal iechyd.


Rwy’n credu mai dyma’r tro cyntaf i mi fod yn rhan o ddrama a fydd yn cael effaith gymdeithasol uniongyrchol a allai newid bywydau pobl.

Mae Perthyn yn teithio Cymru o fis Ebrill 26. Ewch i'r dudalen Perthyn am leoliadau a dyddiadau yn eich ardal chi. http://www.re-live.org.uk/perthyn

#Belonging2018 #Perthyn2018