Llion Williams returns to Belonging

As Belonging returns to the stage this week, Llion Williams, winner of Best Actor for Belonging at the 2016 Wales Theatre Awards,  shares his thoughts about, acting, dementia, language and being back with the Re-Live team again.

It’s not something I do very often - returning to a production like this! But it always felt like a short tour last time; it always felt like we left it too early.

We’ve got a two new cast members this time, so that makes it fresh. Obviously it’s not going to be a complete reproduction of what we did before. I can see that it’s going to metamorphose into something different. And I love touring - I have gypsy blood I think! It’ll be a lovely experience to take it to Dublin as well as touring Wales - it’s always great to take Welsh art out of the country if you can and share it - show what we’re up to here in Wales.

Dementia seems to be a theme that comes up a lot in the theatre these days, but you feel in safe hands with Re-Live, because they work in the field of healthcare and art. You know there’s support behind you to take your performance forward. You know you can trust them.

The strength of Belonging lies in its simplicity. It’s a simple play, but there’s this truth about it that touches so many people’s lives. It doesn’t try to be something that it’s not and because of that people feel very close to it. I think people recognise themselves in it, which always makes the best theatre. Audiences can relate to it.

  Llion Williams and Cler Stephens rehearsing at Chapter, Cardiff

Llion Williams and Cler Stephens rehearsing at Chapter, Cardiff

Morys has dementia and is struggling with the English language, because that’s what tends to happen with dementia - you return to your native tongue. It’s going to be interesting taking it over to Ireland, because this happens with dementia all over the world and it’s a similar situation in Ireland as with Wales.

It’s very topical in Wales, this idea of bilingualism and the importance of care in the language a person is comfortable with. That’s something that’s really close to my heart. Morys takes that theme as a character. He’s from north Wales and has followed work down south, married a woman called Mags, who doesn’t speak Welsh, but when dementia sets in he returns to his native north Walean.

  Llion Williams (Morys) and Cler Stephens (Mags) in Belonging

Llion Williams (Morys) and Cler Stephens (Mags) in Belonging

I play two characters in Belonging, Morys and MikeNo-one ever asks me about Mike, who’s the next door neighbour of Sheila. He can be misunderstood. There’s a comic element to him, which I love because it’s a contrast to the other work I’m doing in the play.

Last time we seem to have reached a lot of people who work in the healthcare profession, as well as theatre goers. I feel we’re actually reaching an audience that the production will have an impact on. They’re living with this, be they carers, be they healthcare professionals or families or people actually living with dementia themselves.

After performances we sometimes have feedback sessions with the audience, which they find very cathartic - I mean they’ve possibly sat and watched their own lives on stage and now they get to talk with other people in similar situations. There’s a lovely spirit to that side of the performance.

That kind of environment fosters a community. We all know someone know who’s affected by dementia. Some people might feel that they don’t want to come because it might be a bit close to the bone, but it’s totally the other way around; people feel that a heavy burden has been lifted after seeing the performance, so I really would encourage people who are affected by dementia or working in the healthcare profession to come, because I think they’ll get a good deal out of it.

I want to portray dementia in an honest way. I have been called on several times to talk at the Eisteddfod as a result of the awards last time, but I try to tell people that it’s just a matter of trying to portray it honestly and truthfully.

To me 90% of any actor’s preparation is drawing on your own experience. And of course the older you get the more experiences you have to draw upon - good or bad. You can talk about any technique that you like as an actor, but to me it’s getting out there in the world that’s the most effective tool. You can’t portray this world unless you get out there and live in it.

Belonging is about to tour Wales from April 26. Please visit the Belonging page for venues and dates near you.

Mae Llion Williams yn dychwelyd i Perthyn

Wrth i Perthyn ddychwelyd i'r llwyfan yr wythnos hon, mae Llion Williams, enillydd yr Best Actor am Perthyn yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016, yn rhannu ei feddyliau am, actio, dementia, iaith a bod yn ôl gyda'r tîm Re-Live eto.

Nid yw’n rhywbeth rydw i’n gwneud yn aml – dychwelyd i gynhyrchiad fel hwn! Ond, roedd yn teilo fel taith fer y tro diwethaf; roedd yn teimlo fel ein bod wedi gorffen yn rhy fuan.

Mae gennym dau aelod newydd yn y cast y tro hwn, felly mae hynny’n gwneud pethau’n ffres. Yn amlwg, nid yw’n ail-gynhyrchiad llwyr o’r hyn wnaethon ni o’r blaen. Gallaf weld y bydd yn trawsnewid i mewn i rywbeth gwahanol. Ac rwyf wrth fy modd yn mynd ar daith – mae gennyf waed sipsiwn dwi’n credu! Bydd yn brofiad hyfryd mynd â’r ddrama i Ddulyn – mae bob tro’n wych mynd â chelf Gymreig allan o’r wlad os medrwch chi a’i rannu – dangos beth rydym ni’n gwneud yma yng Nghymru.

Mae dementia yn thema sy’n ymddangos yn aml yn y theatr y dyddiau hyn ond rydych yn teimlo eich bod mewn dwylo diogel gyda Re-Live, oherwydd eu bod yn gweithio ym meysydd gofal iechyd a chelf. Rydych chi’n gwybod bod yna gefnogaeth y tu ôl i chi i yrru’ch perfformiad ymlaen. Rydych yn gwybod eich bod yn gallu ymddiried ynddynt.

  Morys (Llion Williams) and Mags (Cler Stephens)

Morys (Llion Williams) and Mags (Cler Stephens)

Cryfder Perthyn yw ei symlrwydd. Mae’n ddrama syml, ond mae yna wirionedd ynddi sy’n cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl. Nid yw’n ceisio bod yn rhywbeth nad ydyw ac am y rheswm hwnnw, mae pobl yn teimlo’n agos iawn ato. Rwy’n credu bod pobl yn gallu adnabod eu hunain yn y ddrama, a dyna’r math gorau o theatr i mi. Mae cynulleidfaoedd yn gallu ymdeimlo â’r bobl yn y ddrama.

Mae gan Morys ddementia ac mae’n cael trafferth gyda Saesneg, ond dyna beth sy’n tueddu i ddigwydd gyda dementia – rydych chi’n dychwelyd i’ch mamiaith. Mae’n mynd i fod yn ddiddorol mynd â’r ddrama draw i Iwerddon, oherwydd mae hyn yn digwydd gyda dementia ar draws y byd ac mae’r sefyllfa yn Iwerddon yn debyg i’r sefyllfa yng Nghymru.

Mae’n ddadleuol iawn yng Nghymru, y syniad yma o ddwyieithrwydd a phwysigrwydd gofal yn yr iaith mae’r person yn gyfforddus yn siarad. Mae hynny’n rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae gan Morys y thema honno fel cymeriad. Mae’n dod o ogledd Cymru ac mae wedi dod i’r de am waith a phriodo menyw sydd ddim yn siarad Cymraeg, ond pan mae dementia’n taro, mae’n dychwelyd at siarad fel rhywun o’r gogledd.

Rwy’n chwarae dau gymeriad yn Perthyn. Does neb byth yn gofyn i mi am Mike, cymydog Sheila, un o’r prif gymeriadau eraill. Gall gael ei gamddeall. Mae elfen ddoniol iddo, ac rwy’n hoff o hyn oherwydd mae’n gyferbyniad i’w gwaith arall rwy’n gwneud yn y ddrama.

Y tro diwethaf, roedd yn ymddangos ein bod wedi cyrraedd llawer o bobl sy’n gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd, yn ogystal â phobl sy’n hoff o fynd i’r theatr. Rwy’n teimlo ein bod yn cyrraedd cynulleidfa y bydd y cynhyrchiad yn cael effaith arnynt. Maen nhw’n byw gyda hyn, boed yn ofalwyr, yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn deuluoedd neu’n bobl sy’n byw gyda dementia eu hunain.

Ar ôl perfformiadau rydym weithiau’n cael sesiynau adborth gyda’r gynulleidfa, ac mae hyn yn gathartig iawn iddynt – wedi’r cwbl, mae’n bosib eu bod nhw newydd eistedd a gwylio eu bywydau eu hunain ar y llwyfan a nawr maen nhw’n cael cyfle i siarad â phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae yna ysbryd hyfryd i’r ochr yna o’r perfformiad.

Mae’r math hwnnw o awyrgylch yn meithrin cymuned. Mae pawb yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan ddementia. Mae’n bosib bod rhai pobl yn teimlo eu bod ddim eisiau dod oherwydd gallai’r peth fod yn rhy agos i’r gwir, ond i’r gwrthwyneb sy’n wir; mae pobl yn teimlo bod baich trwm wedi cael ei godi ar ôl gweld y perfformiad, felly baswn yn annog pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia neu sy’n gweithio yn y proffesiwn gofal iechyd i ddod, oherwydd rwy’n credu y byddant yn buddio ohono.

Rwyf eisiau portreadu dementia mewn modd onest. Rwyf wedi cael sawl cais i siarad yn yr Eisteddfod yn dilyn y gwobrau diwethaf, ond rwy’n ceisio dweud wrth bobl mai mater o geisio cyfleu’r cyflwr mewn modd onest a gwir yw hi.

I fi, 90% o waith paratoi unrhyw actor yw tynnu ar eich profiadau’ch hun. Ac wrth gwrs, yr hynaf ydych chi, y mwyaf o brofiadau sydd gennych chi i’w defnyddio – rhai da neu wael. Gallwch siarad am unrhyw dechneg y mynnwch chi fel actor, ond i mi bod allan yn y byd go iawn yw’r dechneg fwyaf defnyddiol. Ni allwch chi bortreadu’r byd hwn oni bai bod gennych brofiad ohono

Mae Perthyn ar fin taith Cymru o fis Ebrill 26. Ewch i'r dudalen Perthyn am leoliadau a dyddiadau yn eich ardal chi

#Belonging2018 #Perthyn2018