Yma Nawr / 今、ここに立つ / Here & Now
Comic Straeon Bywyd Cymru–Japan am Ddementia
Mae Yma Nawr / 今、ここに立つ / Here & Now yn gomic straeon bywyd sy’n cynnwys pedair stori a gyd-grëwyd gyda phobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd yng Nghymru a Japan. Mae wedi’i chyhoeddi mewn tair fersiwn iaith: Cymraeg, Japaneg a Saesneg.
Cafodd y comic ei greu drwy gydweithrediad rhyngwladol rhwng Re-Live yng Nghymru a Sefydliad Lles Cymdeithasol Tenjin-kai yn Ofunato, Japan. Mae’n dod â dwy stori o Gymru a dwy o Japan ynghyd, ac mae wedi’i gyhoeddi yn Saesneg, Cymraeg a Japaneg fel rhan o Flwyddyn Ddiwylliannol Cymru–Japan.
Mae’r straeon personol iawn hyn yn ein gwahodd i mewn i fywydau pedwar o bobl, ac yn dangos cyfoeth a chymhlethdod bywyd gyda dementia. Gan ddod â thraddodiad manga Japan ac agwedd Re-Live at greu comics straeon bywyd ynghyd, maen nhw’n cynnig ffordd newydd o rannu straeon personol ar draws ieithoedd a diwylliannau.
Mae’r prosiect hwn wedi’i gefnogi gan:
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Council | Cymru, Tenjin-kai, Japan.
Breuddwydio Eto
Stori gan Ritsuko Sato
Celf gan Tokushige Kawakatsu
Llythreniad gan Rob Jones
Ymunwch â’r lansiad ar-lein
Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni ar gyfer y lansiad ar-lein am 10am (Cymru, y DU) / 6pm (Japan) ddydd Llun 28 Medi 2026.
Dewch i gyfarfod rhai o’r storïwyr a’r tîm y tu ôl i’r comic, gweld y gwaith celf a chlywed sut y cafodd y prosiect ei gyd-greu yng Nghymru a Japan.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg, gyda chapsiynau byw ar gael yn Saesneg, Cymraeg a Japaneg.
Cofrestrwch ar gyfer y lansiad ar-lein am ddim
Diwrnod Breuddwydio Eto Mr Sato gyda thimau Re-Live a Tenjin-kai, Ofunato, Japan.
Darllenwch y comic
Bydd y comic ar gael yn Saesneg, Cymraeg a Japaneg o 29 Medi 2026.
Bydd copïau print ar gael drwy siop ar-lein Re-Live ac mewn siopau comic dethol yng Nghymru, y DU a Japan.
Gwthio Ymlaen/Pushing Forward
Story by Patrick Cachia
Art & lettering by Matt Beese