Sensations
Perfformiad straeon bywyd byw ar-lein yn archwilio’r corff a’r straeon rydym yn eu cario ynddo dros amser.
Dros naw wythnos ar-lein, bu wyth o bobl hŷn yn gweithio gyda Re-Live i gyd-greu perfformiad yn archwilio’r corff — y cofion, y pleserau, y galar, y teimladau, y cryfderau, y bregusrwydd, a’r straeon sy’n byw o’n mewn drwy gydol bywyd.
Wedi’i berfformio’n fyw ar-lein ar 15, 16 a 17 Gorffennaf 2021, roedd Sensations yn ail berfformiad straeon bywyd Cwmni’r Henuriaid Re-Live yn ystod pandemig Covid-19. Roedd y sioe yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyfyrdodau personol ar y corff a’i daith drwy fywyd. Drwy gofio a rhannu gyda’i gilydd, dechreuodd eiliadau o fywiogrwydd, hiwmor, dychymyg, a llawenydd ail-ddod i’r wyneb.
“My body holds on to life.” — Perfformiwr Cwmni’r Henuriaid
Gallwch wylio’r perfformiad yma.