Pwy Ydym Ni

Mae Re-Live yn sefydliad celfyddydau Straeon Bywyd wedi’i leoli yng Nghymru, yn gweithio gyda chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd am archwilio a mynegi eu profiadau byw drwy’r celfyddydau.

Ers 2006, rydym wedi gweithio gyda phobl hŷn, pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, cyn-filwyr, cymunedau LGBTQ+, pobl ar ddiwedd eu bywydau, menywod amenedigol, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-greu theatr, comics, cerddoriaeth, arddangosfeydd, a phrosiectau creadigol sy’n rhannu rhai o’r straeon cudd sydd o fewn ein cymunedau.

Ein gweledigaeth yw cymdeithas lle mae Celfyddydau Straeon Bywyd yn hygyrch i bawb ac yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi iechyd, llesiant, tosturi, a chysylltiad.

Ochr yn ochr â’n gwaith creadigol, rydym yn darparu hyfforddiant cyfranogol a phrofiadol mewn ymarfer Straeon Bywyd a dulliau creadigol o gefnogi pobl sy’n byw gyda phrofiadau cymhleth, gan gynnwys dementia, trawma, galar, a heriau iechyd meddwl.

Mae Re-Live yn sefydliad aml-flwyddyn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn dderbynnydd Gwobr Sefydliadau Celfyddydau Dinesig Sefydliad Calouste Gulbenkian 2023. Mae ein gwaith wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol am ei gyfraniad i ymarfer Celfyddydau ac Iechyd.

Yn 2025, cyhoeddodd Bloomsbury Methuen Drama Creating Life Story Theatre, a ysgrifennwyd gan gyd-sylfaenwyr Re-Live, Karin Diamond ac Alison O’Connor, ochr yn ochr â Clark Baim. Mae’r llyfr yn ganllaw ymarferol i gyd-gynhyrchu a chyd-greu, gan gefnogi artistiaid, ymarferwyr, a sefydliadau i ddatblygu ymarfer Straeon Bywyd moesegol ac ystyrlon yn eu cymunedau eu hunain.

“Re-Live has a deep-rooted commitment to its community, to placing their stories centre stage, and to championing the power of creative expression in destigmatising issues around health and wellbeing.” — Baroness Bull CBE, Calouste Gulbenkian Foundation