Perfformiad theatr straeon bywyd yn archwilio dementia drwy brofiad byw.
Daeth Memoria â phobl oedd yn byw gyda dementia, aelodau o deuluoedd, a rheolwr cartref gofal ynghyd i gyd-greu perfformiad theatr straeon bywyd yn archwilio profiadau cymhleth dementia. Wedi’i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd i gynulleidfaoedd llawn ac wedi’i ffrydio’n fyw ledled y byd, creodd y cynhyrchiad ofod pwysig lle gallai straeon a phrofiadau nad oeddynt yn cael eu clywed yn gyhoeddus yn aml gael eu gweld a’u rhannu.
Mynychodd Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Cymru ar y pryd, un o’r perfformiadau, ac aeth y straeon a rannwyd gan y grŵp ymlaen wedyn i helpu i lywio Cynllun Dementia cyntaf Cymru. Parhaodd y grŵp i rannu eu profiadau am flynyddoedd wedyn gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, arweinwyr y GIG, myfyrwyr, a llunwyr polisi ledled Cymru.
“Everyone needs to watch this show. It’s so important for us all.” — Ymateb gan aelod o’r gynulleidfa
“Since this Alzheimer’s came, it’s all gone… Apart from when I come here, I can express myself. That’s why I need this, I need a chance to be me again.” — Jeannette, cyfrannwr Memoria
Memoria
Gallwch wylio’r perfformiad yma