Cytserau/Constellations

Perfformiad straeon bywyd am unigrwydd a pherthyn mewn byd hyper-gysylltiedig.

Perfformiwyd yn fyw ar-lein rhwng 15–17 Mehefin 2022, ac roedd Cytserau / Constellations yn drydydd perfformiad ar-lein Cwmni’r Henuriaid Re-Live — cymuned o bobl hŷn ledled Cymru, rhwng 72 a 95 oed, a gyfarfu ar-lein i gyd-greu theatr yn seiliedig ar eu profiadau byw.

Gwyliwch y perfformiad yma

Ymateb y gynulleidfa:

“Constellations was so moving! What an amazing group — so much wisdom, humour, vulnerability, passion and talent!”

“Such hope and joy”

“I feel privileged to have been at the final performance today — powerful, moving and inspiring” — Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2022)

Mynychodd 227 o weithwyr gofal ledled Cymru y perfformiadau fel rhan o hyfforddiant drwy Dimau Datblygu’r Gweithlu, gan ddefnyddio’r sioe i fyfyrio ar lesiant, unigrwydd, sgyrsiau ystyrlon, a’r hyn sy’n bwysig fwyaf i bobl hŷn.

Roedd aelodau’r gynulleidfa yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, artistiaid, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, cwnselwyr, gofalwyr, a llunwyr polisi, gan ddangos rôl gynyddol gwaith heneiddio creadigol mewn trafodaethau am iechyd a llesiant.

Darluniwyd poster y perfformiad gan yr artist Siân Wroe Jones.