Perthyn/Belonging

Cynhyrchiad theatr ddwyieithog arobryn yn archwilio dementia, empathi, iaith, a chysylltiad dynol.

Wedi’i ysgrifennu gan Karin Diamond ac yn teithio Cymru yn 2016 a 2018, roedd Perthyn / Belonging yn archwilio profiadau pobl sy’n byw gyda dementia, aelodau o deuluoedd, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Wedi’i berfformio ar gyfer cynulleidfaoedd cyhoeddus a’i ddefnyddio’n helaeth fel hyfforddiant dementia, daeth y cynhyrchiad yn ffordd arloesol o ddefnyddio theatr i ddyfnhau dealltwriaeth, empathi, a gofal caredig.

Gwelwyd y cynhyrchiad gan dros 5,000 o bobl — gan gynnwys mwy na 3,000 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol — a derbyniodd ymateb arbennig gan gynulleidfaoedd a beirniaid, gan ennill dwy Wobr Theatr Cymru a theithio i Ŵyl Bealtaine yn Iwerddon.

“The best dementia training I’ve attended in 40 years.” — Nyrs

“Belonging is an important piece of theatre. Beautiful and genuine.” — The Stage ★★★★★

“Life affirming drama, entirely remarkable.” — Wales Online ★★★★★