Yn lansio Hydref 2026 yng Nghaerdydd
Caneuon gwreiddiol wedi’u cyd-greu a’u perfformio gan gyn-filwyr, eu teuluoedd, ac aelodau o gymunedau ledled Cymru.
North Wales Group recording at Kempston Street Studios, Liverpool
Mae A Space in the Woods yn albwm o ganeuon gwreiddiol wedi’u cyd-greu, a ddatblygwyd drwy grwpiau canu a chyfansoddi Re-Live ar draws Gogledd, De, a Gorllewin Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol, mae cyfranogwyr wedi ysgrifennu, cyfansoddi, a recordio eu gwaith mewn stiwdios proffesiynol — gan greu casgliad o ganeuon personol iawn. Mae’r broses yn cynnig man creadigol sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant, tra hefyd yn adeiladu hyder, cysylltiad, ac ymdeimlad o berthyn.
I nodi lansiad yr albwm yng Nghaerdydd ym mis Hydref, bydd y tri grŵp canu a chyfansoddi yn dod ynghyd i rannu’r gwaith mewn gofod gwrando ar y cyd, ac yna sgwrs am effaith y gwaith a’i rôl wrth gefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Cefnogaeth a phartneriaid
Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth wrth wneud y prosiect hwn yn bosibl.
Cyflwynir y prosiect canu a chyfansoddi mewn partneriaeth â:
The VC Gallery, Doc Penfro
The Veterans and Community Hub
• Caffi Naafi